Interlingua
Oddi ar Wicipedia
Argraffiad Interlingua Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd
Iaith ryngwladol yw Interlingua sy'n defnyddio geiriau mwyaf cyffredin Lladin, Eidaleg, Sbaeneg, Portiwgaleg, Ffrangeg a Saesneg. Y canlyniad yw Lladin modern syml.
Y gwahaniaeth rhwng Interlingua ac Esperanto yw bod geiriau Esperanto wedi eu creu yn ôl rheolau'r iaith a dim ond y rhai sydd wedi dysgu'r iaith sy'n ei deall. Dydy geiriau Interlingua ddim wedi eu creu. Roeddyn nhw'n bodoli'n barod. Y canlyniad yw, bod unrhyw un sy'n medru dwy iaith Ewropeaidd, yn deall 80% neu 90% o Interlingua yn barod, heb ddysgu dim ohono. Fe fydd yr Eidalwyr, y Sbaenwyr a'r Portiwgalwyr yn deall Interlingua heb ddim trafferth. Iddyn nhw fe fydd yn swnio fel tafodiaith o'u hiaith eu hunain.
[golygu] Ymadroddion cyffredin
- Hello! : Helô!
- Bon die! : Bore/p'nawn da!
- Como sta vos? : Sut ydych chi?
- Como sta tu? : Sut wyt ti?
- Multo ben! : Da iawn!
- Benvenite! : Croeso!
- Excusa me! / Perdon! : Esgusodwch fi!
- Per favor! : Os gwelwch chi'n dda!
- Gratias! : Diolch!
- Si : Ie/do/oes etc.
- No : Na