Ionia
Oddi ar Wicipedia
Roedd Ionia (Groeg: Ιωνία) yn ardal ar arfordir gorllewinol Anatolia (Twrci heddiw). Roedd yn cynnwys y diriogaeth ar hyd yr arfordir o Phocaea yn y gogledd ger aber Afon Hermus (yn awr Afon Gediz), i Miletus yn y de, ger aber Afon Maeander, ac roedd yn cynnwys ynysoedd Chios a Samos. Roedd yn ffinio ag Aeolia yn y gogledd, a Lydia yn y dwyrain ac a Caria yn y de.
Yn ôl traddodiad y Groegiaid, sefydlwyd dinasoedd Ionia gan wladychwyr o ddinasoedd Gwlad Groeg. Dinasoedd Ionia oedd Miletus, Myus, Priene, Effesus, Colophon, Lebedus, Teos, Erythrae, Clazomenae a Phocaea. Yn ddiweddarach meddiannwyd Smyrna (İzmir yn awr) gan yr Ioniaid.
Yn ystod teyrnasiad Croesus (560 - 545 CC.) fel brenin Lydia, daeth dinasoedd Ionia dan ei reolaeth ef. Pan orchfygwyd Croesus gan Cyrus Fawr, brenin Persia, daeth Ionia yn rhan o Ymerodraeth Persia. Tua 500 CC. gwrthryfelodd dinasoedd Ionia yn erbyn y Persiaid, a chawsant rywfaint o gymorth gan Athen ac Eretria. Arweiniodd hyn at Ryfeloedd Groeg a Phersia o 491 CC..