Isaac Daniel Hooson
Oddi ar Wicipedia
Roedd Isaac Daniel Hooson (2 Medi 1880 - 18 Hydref 1948), neu I.D. Hooson, yn fardd yn yr iaith Gymraeg.
Cafodd ei eni yn Rhosllannerchrugog, mab Edward a Harriet Hooson. Addysgwyd yn yr ysgol ramadeg Rhiwabon.
Roedd yn cael ei adnabod fel "Cyfaill i Blant Cymru". Cyfreithiwr wrth ei waith ydoedd.