ITN
Oddi ar Wicipedia
Y mae Independent Television News neu ITN yn ddarparwr newyddion pwysig sydd â phencadlys yn y Deyrnas Unedig. Chwe busnes allweddol sydd ganddo: ITN News, ITN Source, ITN On, ITN Factual, Visual Voodoo ac ITN Consulting.
Y mae ITN yn darparu gwybodaeth ar gyfer ITV, Channel 4, More 4, PBS, 300 o orsafoedd radio masnachol trwy IRN (Independent Radio News), pob cwmni ffôn symudol, Google, MSN a nifer o gynhyrchwyr ffilmiau ac ymchwilwyr ledled y byd. Y mae adrannau ITN hefyd yn cynhyrchu llawer o raglenni ar gyfer darlledwyr yn y Deurnas Unedig, Unol Daleithiau yr America ac Ewrop.
Ynghyd â'i bencadlys yn Llundain, y mae gan ITN swyddfeydd yn Bankok, Beijing, Berlin, Brwsel, Jerwsalem, Johannesburg, Los Angeles, Moscow, Efrog Newydd, Paris, Sydney a Washington, D.C.
[golygu] Dolenni Cyswllt
- (Saesneg) Gwefan ITN