Ivan Bilibin
Oddi ar Wicipedia
Arlunydd a chynllunydd setiau theatr Rwsiaidd oedd Ivan Yakovlevich Bilibin (Rwsieg Иван Яковлевич Билибин) (4 / 16 Awst 1876 - 7 Chwefror 1942).
Creodd Ivan Bilibin ei arddull arbennig ei hun mewn darlunio llyfrau, arddull â'i gwreiddiau'n ddwfn yn arddulliau steilistig celf canoloesol a gwerinol Rwsia, fel y lubok (printiadau poblogaidd rhad y 19eg ganrif), brodwaith y werin, lluniau bloc pren a llawysgrifau darluniedig. Mae defnydd Bilibin o linellau cysact wedi'u tynnu'n ofalus yn ei gysylltu â gwaith y mudiad Art Nouveau.
Roedd Bilibin yn cael ei adnabod yn bennaf yn ystod ei oes am ei ddarluniau o olygfeydd allan o chwedlau gwerin Rwsiaidd a hefyd o'r bylinas, arwrgerddi hir hynafol Rwsiaidd, yn ogystal â'i luniau ar gyfer gwaith Alecsander Pwshcin a Mikhail Lermontov. Fe wnaeth lawer o waith ar gyfer y theatr yn ogystal, yn sets anferth lliwgar a greai awyrgylch arbennig ar y llwyfan, yn arbennig ar gyfer operâu fel Chwedl Tsar Saltan, Chwedl y Ceiliog Aur, Y Tywysog Igor a Boris Godunov. Creodd gostiwmau i'r olaf hefyd a chafodd ei waith ei weld ym mhrif theatrau St Petersburg, Moscow, Paris a Prague.
[golygu] Llyfryddiaeth
Sergei Golynets, Ivan Bilibin (Leningrad, 1981; argraffiad newydd, Llundain, 1981). ISBN 0330266314]