J. Brynach Davies
Oddi ar Wicipedia
Roedd Brynach (J. Brynach Davies) (1873 - 1923) yn fardd a llenor a aned yn Lanfrynach, Brycheiniog (de Powys). Er mai clerc mewn swyddfa cyfreithiwr oedd ei alwedigaeth, roedd hefyd bregethwr cynorthwyol ac yn arweinydd eisteddfodol. Roedd ganddo dudalen Gymraeg yn y Tivy Side Advertiser.
Cyhoeddwyd Awelon Oes sef cofiant a detholiad o'i waith yn 1925, cyfrol a olygwyd gan E. Curig Davies.
Mae ei fedd ym mynwent Capel Llwyn-yr-hwrdd.