James Hunt
Oddi ar Wicipedia
Gyrrwr rasio Fformiwla Un o Sais oedd 'James Simon Wallis Hunt (29 Awst, 1947 - 15 Mehefin, 1993). Enillodd bencampwriaeth y byd yn 1976.
Ganed ef i deulu cefnog yn Belmont, Sutton, Llundain. Dechreuodd rasio yn Fformiwla Un yn 1973, yn gyrru car March 731 i dîm Hesketh Racing. Yn 1975 ymunodd a thîm McLaren, ac yn ei flwyddyn gyntaf o yrru iddynt, enillodd bencampwriaeth y byd wedi i Niki Lauda, oedd yn arwain y bencampwriaeth, gael damwain ddifrifol hanner ffordd trwy'r tymor. Ymddeolodd o rasio yn 1979, a daeth yn sylwebydd i'r BBC.