James Stewart (actor)
Oddi ar Wicipedia
Actor Americanaidd oedd James Stewart (20 Mai 1908 – 2 Gorffennaf 1997). Roedd yn adnabyddus i'w ffrindiau a'i ffans fel Jimmy Stewart. Cafodd yrfa hir yn gwneud ffilmiau a daeth yn un o actorion mwyaf adnabyddus Hollywood. Gwyddai sut i bortreadu cymeriadau y gallai pobl gyffredin uniaethu â hwy yn hawdd, yn arbennig yn ei gomedïau. Daeth ei wyneb a'i lais cyfareddol yn un o eiconau ei gyfnod.
Cafodd ei eni yn Indiana, Pennsylvania ym 1908. Priododd Gloria Hatrick McLean ar 9 Awst 1949. Daeth i amlygrwydd fel actor comedi ac actor mewn ffimiau Western ddiwedd y 1930au a'r 1940au. Serenodd gyda rhai o actorion mwyaf y dydd, yn cynnwys Katharine Hepburn (The Philadelphia Story) a Marlene Dietrich (Destry Rides Again).
Cymerodd ei yrfa dro newydd pan gafodd ei ddewis gan y cyfarwyddwr Alfred Hitchcock i serennu mewn cyfres o ffilmiau arloesol fel Rope (1948), Vertigo (1958, gyda Kim Novak) a Rear Window (1954). Ystyrir yr olaf yn un o'i ffilmiau gorau. Ar ôl cyfnod y ffilmiau Hitchcock dychwelodd i fyd y Western a gwnaeth gyfres o ffilmiau nodedig gan gynnwys How the West Was Won (1962).
[golygu] Ffilmiau (detholiad)
- You Can't Take It With You (1938)
- Made For Each Other (1939)
- Mr. Smith Goes to Washington (1939)
- Destry Rides Again (1939)
- The Shop Around the Corner (1940)
- The Philadelphia Story (1940)
- It's a Wonderful Life (1946)
- Rope (1948)
- Harvey (1951)
- The Naked Spur (1953)
- Rear Window (1954)
- The Far Country (1954)
- Vertigo (1958)
- Anatomy of a Murder (1959)
- How the West Was Won (1962)
- The Man Who Shot Liberty Valance (1962)