Jeff Banks
Oddi ar Wicipedia
Dyluniwr ffasiwn Cymraeg yw Jeff Banks (Ganed 17 Mawrth, 1943 yng Nghlyn Ebwy), mae'n dylunio dillad dynion a merched yn ogystal a gemwaith a dodrefn meddal.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Bywgraffiad
Ganed yn ne Cymru, yn fab i weithwr metel dalen, gadawodd ei dad ei fam pan oedd Jeff yn wyth oed, a penderfynnodd ei fam symud i Lundain oherwydd hyn.[1]
Cafodd gynnig ysgoloriaeth o ysgol annibynol ramadeg, Coleg St Dunstan yng Nghatford, De Llundain, ond ni allai ei fam fforddio'r wisg ysgol felly cymerodd Jeff rownd yn dosbarthu paraffin mewn berfa - erbyn iddo droi'n 13 oed, roedd yn cyflogi dyn i yrru lorri tancer i ddosbarthu, gwerthodd y busnes pan yn 15 oed.[1]
Annogwyd gan athro i astudio celf a dod yn beintiwr, ond yn ystod ei flwyddyn gyntaf yn Ygol Gelf Camberwell, Llundain, sylweddolodd nad oedd ei sgiliau'n ddigon eang, felly newidiodd ei atudiaethau i ddylunio mewnol ac yna tecstiliau yng Ngholeg Arlunio a Dylunio Sant Martin, ac yn ddiweddarach yn Ysgol Newydd Dylunio Parson yn Efrog Newydd.[2]
Mae gan Banks radd anrhydedd o Brifysgol Lancaster, Dwyrain Llundain, Newcastle & Northumbria, Coleg Prifysgol Celf Creadigol,[3] ac o Brifysgol Westminster, ac mae hefyd yn Ddoethur yn y Celfyddydau.[2]
[golygu] Gyrfa
Yn 1964, gyda arian wedi ei achub o'i fusnes paraffin ac wedi iw dad fosgeisi ei gartref, agorodd Banks y boutique Clobber yn Llundain,[1] a oedd yn gwerthu ei ddyluniadau ei hun yn ogystal a gwaith dylunwyr eraill. Roedd yn llwyddianus iawn, felly yn 1969, lawnsiodd ei label ffasiwn ei hun.
[golygu] Bywyd Personnol
Mae Banks wedi priodi ddwywaith. Y tro cyntaf i seren bop Sandie Shaw, ac wedyn i Sue Mann, model ac arlunudd colur.
[golygu] Ffynhonellau
- ↑ 1.0 1.1 1.2 My Way: Fashion designer Jeff Banks on how to get on at work The Independent - 19 Gorffennaf 2007
- ↑ 2.0 2.1 Bywgraffiad Jeff Banks BBC Wales Arts & Entertainment's
- ↑ Jeff Banks - Fashion Designer University of the Creative Arts
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.