Jerez de la Frontera
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn ardal Cádiz yw Jerez de la Frontera a leolir yng Nghymuned Ymreolaethol Andalucía yn Sbaen. Mae poblogaeth o ddau gan mil o bobl yno erbyn hyn ac mae'r ddinas bellach wedi disodli prifddinas yr ardal Cádiz fel y lle pwysicaf ar gyfer cysylltiadau trafnidaieth gyhoeddus a hi bellach yw prif ganolfan economaidd yr ardal. Mae Jerez de la Frontera wedi'i lleoli mewn ardal ffrwythlon ar gyfer amaethyddiaeth. Hi yw pumed ddinas Andalucía.