John, brenin Lloegr
Oddi ar Wicipedia
Brenin Lloegr o 6 Ebrill 1199 tan ei farwolaeth oedd John (24 Rhagfyr 1166 - 18/19 Hydref 1216). Ganwyd yn Rhydychen, yn bumed mab (a'r ieuengaf) i Harri II, brenin Loegr, a'i wraig Eleanor o Aquitaine.
Cafodd ei yrru gan ei dad i Iwerddon yn 1185 ond bu rhaid i Harri ei alw'n ôl am fod cwynion am ei ymddygiad.
Cafodd ei goroni'n frenin Lloegr yn Abaty Westminster ar 27 Mai, 1199. Yn 1189 priododd âg Isabella o Gaerloyw, merch ac etifedd William Fitz Robert, Ail Iarll Caerloyw. Nid oedd iddynt blant ac fe gawsant ysgariad tua'r adeg y daeth John ar yr orsedd. Ail briododd John âg Isabella d'Angoulême a oedd ugain mlynedd yn iau nag ef, ar 24 Awst 1200
Gorfodwyd ef i lofnodi'r Siarter Fawr (Magna Carta) gan y barwniaid a'r eglwys ar 15 Mehefin, 1215.
Priododd ei ferch Siwan â'r tywysog Llywelyn Fawr.
Bu farw yn Newark, y 19 Hydref, 1216.
Rhagflaenydd: Rhisiart I |
Brenin Lloegr 6 Ebrill 1199 – 18/19 Hydref 1216 |
Olynydd: Harri III |