John Evans (dyn hynaf)
Oddi ar Wicipedia
John Evans (19 Awst, 1877 — 10 Mehefin 1990), oedd y dyn hynaf a gofnodwyd erioed yng Nghymru ac yn Ynys Prydain. Rhwng diwedd 1988 a'i farwolaeth, ef oedd y dyn hynaf yn y byd.
Bu John Evans yn löwr cyn ymddeol. Cafodd ei gydnabod fel y person hynaf erioed ym Mhrydain ac Iwerddon (hyd y gwyddir i sicrwydd) pan dorrodd record John Mosely Turner o Loegr, a fu farw ar 21 Mawrth 1968 yn 111 a 279 diwrnod. O 25 Tachwedd 1988, John Evans oedd y dyn byw hynaf yn y byd. Bu farw yn 112 a 295 diwrnod oed.