John Griffith Williams
Oddi ar Wicipedia
Llenor yn yr iaith Gymraeg oedd John Griffith Williams neu J.G. Williams (1915 - 1987), a aned yn Llangwnadl yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd).
Saer coed oedd o wrth ei grefft. Gadawodd yr ysgol yn bymtheg oed a mynd i weithio fel prentis ar stad y Gwynfryn a Thalhenbont.
Llenor ei fro yw J.G. Williams yn anad dim, ond mae ei fro yn cynnwys holl ramant hanes Cymru a rhyfeddodau natur. Ei lyfr mwyaf adnabyddus yw'r hunangofiant telynegol Pigau'r Sêr (1969), sy'n digrifio ei blentyndod yn Llŷn ac Eifionydd a'r bywyd ar y stad wledig drwyadl Gymraeg.
Cafodd yr awdur ei garcharu yn ystod yr Ail Ryfel Byd am, yn ei eiriau ei hun yn ei gyfrol Maes Mihangel (1974), "wrthod cydnabod hawl Llywodraeth Lloegr i osod gorfodaeth filwrol ar Gymru" (gweler Heddychaeth).
Mae ei nofel hanesyddol Betws Hirfaen (1978) yn adrodd helyntion dyn ifanc o Eifionydd yng nghyfnod Owain Glyndŵr, pan loesgwyd castell Cricieth.
Cyhoeddodd yn ogystal astudiaeth o fersiwn Edward Fitzgerald o Rubayat Omar Khayyam.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Pigau'r Sêr (Dinbych, 1969)
- Maes Mihangel (Dinbych, 1974)
- Betws Hirfaen (Dinbych, 1978)
- Omar (1981)