John Nash
Oddi ar Wicipedia
Pensaer o Loegr a fu'n byw yng Nghymru am gyfnod oedd John Nash (1752 - 13 Mai 1835). Adeiladodd llawer o adeiladau enwog yn Llundain.
Cafodd ei eni yn Llundain ac astudiodd i fod yn bensaer o dan Syr Robert Taylor, ond heb fod yn llwyddiannus iawn. Ar ôl etifeddu ffortiwn mawr symudodd ef i Gymru. methodd a buddsoddi'n ddoeth a doedd dim arian ar ôl erbyn 1783. O ganlyniad bu rhaid iddo weithio eto fel pensaer gan gynllunio plastai yn y wlad, a chydweithio gyda Humphry Repton, cynllunydd gerddi tirlun. Aeth Nash yn ôl i weithio yn Llundain ym 1792.
Bu'n byw ar Ynys Wyth am flynyddoedd a chafodd ei gladdu yn Cowes.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Gwaith yng Nghymru
[golygu] Aberaeron
Cynorthwyodd John Nash i gynllun tref Aberaeron a chynlluniodd blasdy Llannerch Aeron (1794) ac eglwys Llanerchaeron yn nyffryn Aeron.
[golygu] Eglwys Gadeiriol Tyddewi
Cafodd yr eglwys ei difrodi'n ddifrifol gan Oliver Cromwell a chynllunodd John Nash talcen gorllewinol Eglwys Gadeiriol Tyddewi.
[golygu] Ffynnone
Cynlluniodd ran o blasdy Ffynone (Ffynhonnau) yng Ngogledd Sir Benfro.
[golygu] Gwaith yn Lloegr
[golygu] Llundain
Yn ôl yn byw a gweithio yn Llundain, nodwyd ei waith gan y Rhaglyw Dywysog (yn hwyrach Brenin Siôr IV) a gorchymynnodd ef Nash i ddatblygu Parc Marylebone. Gan help llaw Repton datblygodd Nash master plan yr ardal sydd yn cynnwys Regent Street, Regent's Park a strydoedd ac adeiladau cain o gwmpas y rheini. Dechreuwyd adeiladu ym 1818, ond doedd dim pob cynllun adeilad gan Nash: roedd penseiri fel James Pennethorne a Decimus Burton yn gwneud llawer o'r waith hyn.
Roedd Nash yn cyfarwyddwr the Regent's Canal Company a sefydlwyd ym 1812 i adeiladu camlas o Lundain gorllewin i'r Afon Tafwys yn y ddwyrain. Roedd Nash yn penderfynu ble adeladu'r gamlas, ond mae'r cynllun manwl gan James Morgan. Agorwyd rhan cyntaf y camlas ym 1816.
Prosiect mawr arall yn Llundain roedd ail-adeiladu Buckingham House i fod yn Buckingham Palace (1825-1835) yn ogystal a darllunio'r Royal Mews a Marble Arch (symydwyd Marble Arch o'r Royal Mews i Stryd Rhydychen ym 1851).
Nifer o brosiectau enwog eraill:
- Sgwâr Trafalgar
- Parc Iago Sant
- Theatr Haymarket (1820)
- Eglwys All Souls, Langham Place (1822-25)
- Carlton House Terrace (1827-1833)
- Cumberland Terrace (1827)