Joseph Loth
Oddi ar Wicipedia
Ysgolhaig Celtaidd ac ieithydd o Lydawr oedd Joseph Loth (27 Rhagfyr, 1847 - 1 Ebrill. 1934). Roedd yn frodor o Guémené-sur-Scorff, Llydaw. Roedd yn ddisgybl i d'Arbois de Jubainville.
Ar ôl cyfnod fel darlithydd ym Mhrifysgol Rennes bu'n athro yn y Collège de France, Paris hyd ei ymddeoliad yn 1930. Cyfranodd nifer o erthyglau a llyfrau ar yr ieithoedd Celtaidd a llenyddiaeth Geltaidd, yn arbennig llenyddiaeth Lydaweg a llenyddiaeth Gymraeg. Bu'n olygydd y cylchgrawn Revue Celtique.
Fe'i cofir yn bennaf yng Nghymru am ei gyfieithiad o'r Mabinogion i'r Ffrangeg (1889), sy'n glasur i'w gymharu â chyfieithiad yr Arglwyddes Charlotte Guest i'r Saesneg, a'i astudiaeth o fydryddiaeth Cymraeg Canol La Métrique Galloise (1900-1902).
[golygu] Llyfryddiaeth ddethol
- Vocabulaire Vieux-breton (1884)
- L'Emigration Bretonne en Armorique (1885)
- Les Mabinogion (1889)
- Les Mots Latins dans les Langues Brittoniques (1892)
- La Métrique Galloise (1900-02)