Karl Jenkins
Oddi ar Wicipedia
Karl Jenkins | |
---|---|
Gwybodaeth Cefndirol | |
Ganwyd | 17 Chwefror 1944 (64 oed) |
Lle Geni | Penclawdd |
Cerddoriaeth | Jazz / Clasurol |
Gwefan | karljenkins.com |
Cyfansoddwr Cymreig ydy Karl Jenkins OBE (ganwyd 17 Chwefror 1944, Penclawdd, Penrhyn Gŵyr).
Roedd ei dad yn athro yn yr ysgol leol ac yn organydd a meistr y côr ym Mhenclawdd, ganddo ef gafodd Jenkins ei hyfforddiant cerddorol cyntaf. Dechreuodd ei yrfa gerddorol fel chwaraewr Obo yng Ngherddorfa Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Aeth ymlaen i astudio cerdd ym Mhrifysgol Caerdydd a'r Royal Academy of Music.
Am y rhanfwyaf o'i yrfa cynnar, adnabyddwyd ef fel cerddor jazz a jazz-roc, bu'n chwarae amryw o offerynnau gan gynnwys sacsoffon soprano a baritôn, allweddellau ac obo. Ymunodd â grwp y cyfansoddwr jazz, Graham Collier, ac yn ddiweddarach cyd-sefydlodd y band Nucleus a enillodd y wobr gyntaf yn y Montreux Jazz Festival yn 1970.