Kate Roberts
Oddi ar Wicipedia
Yr oedd Kate Roberts (13 Chwefror 1891 - 4 Ebrill 1985) yn llenor disglair yn y Gymraeg. Fe'i ganed ym mhentref Rhosgadfan, yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd) a bu farw yn Ninbych. Gelwir Kate Roberts yn "Frenhines y stori fer".
Taflen Cynnwys |
[golygu] Ei hoes
Ganed Kate Roberts yn y bwthyn teuluol Cae'r Gors, yn Rhosgadfan ar lethrau Moel Tryfan. Roedd ei thad yn chwarelwr. Yn ddiweddarach byddai'r bywyd yng Nghae'r Gors a'r pentref yn gefndir holl-bwysig yn ei gwaith llenyddol cynnar. Mae ei chyfrol hunagofiannol Y Lôn Wen yn bortread cofiadwy o'r ardal yn y cyfnod hwnnw. Mae bwthyn Cae'r Gors wedi'i atgyweirio a'i droi'n amgueddfa i'r awdures, a hynny ar ôl brwydr hir iawn i gael yr arian i wneud hynny.
Astudiodd Gymraeg yng Nholeg Prifysgol Cymru Bangor. Bu'n athrawes yn ne Cymru am gyfnod.
Gyda'i gŵr, Morris Williams, roedd hi'n rhedeg Gwasg Gee yn Ninbych. Bu ei gŵr farw ym 1946, a bu'n rhedeg Gwasg Gee am 10 mlynedd ar ei phen ei hun.
[golygu] Ei waith llenyddol
Yn ei blynyddoedd cynnar fel llenor ygrifennai nofelau a storïau byrion am dlodi a chaledi ardal y chwareli yng ngogledd Cymru. Yn ddiweddarach, ar ôl symud i Ddinbych a phriodi, troes at ysgrifennu nofelau a straeon mwy seicolegol gydag unigrwydd yn thema amlwg ynddynt. Cyfieithwyd rhai o'u gweithiau i'r Saesneg ac i ieithoedd eraill.
[golygu] Llyfryddiaeth
[golygu] Gwaith Kate Roberts
- O Gors y Bryniau (1925). Storïau byrion.
- Deian a Loli (1927)
- Rhigolau Bywyd (1929). Storïau byrion.
- Laura Jones (1930). Nofel fer.
- Traed Mewn Cyffion (1936). Nofel.
- Ffair Gaeaf (1937). Storïau byrion.
- Stryd y Glep (1949). Nofel fer.
- Y Byw sy'n Cysgu (1956). Nofel.
- Te yn y Grug (1959). Storïau byrion.
- Y Lôn Wen (1960). Atgofion bore oes.
- Tywyll Heno (1962). Nofel.
- Hyn o Fyd (1964)
- Tegwch y Bore (1967)
- Prynu Dol (1969)
- Gobaith (1972)
- Yr Wylan Deg (1976). Storïau byrion.
- Haul a Drycin (1981)
[golygu] Llyfrau am Kate Roberts
- Bobi Jones (gol.), Kate Roberts: Cyfrol Deyrnged (Gwasg Gee, Dinbych, 1969)