Katherine Jenkins
Oddi ar Wicipedia
Mezzo-soprano o Gastell-nedd yw Katherine Jenkins (ganwyd 29 Mehefin, 1980). Er mai cantores glasurol yw hi, mae hi hefyd yn perthyn i gerddoriaeth a elwir yn gerddoriaeth bontio gan mor eang yw ei apel.
Cafodd ei haddysg gynnar yn Ysgol Alderman Davies a oedd drws nesaf i Eglwys St David lle y cafodd Katherine gyfle i ddysgu canu a chyfle i ganu yn y côr ac fel unawdydd.