Kenneth H. Jackson
Oddi ar Wicipedia
Ysgolhaig o Sais oedd yn arbenigo yn yr ieithoedd Brythoneg oedd Kenneth Hurlstone Jackson (1 Tachwedd 1909 – 20 Chwefror 1991). Ei waith enwocaf yw Language and history in early Britain, sy'n trafod trawsnewidiad y Frythoneg i'r Gymraeg.
Gabed ef yn Beddington, Surrey, ac astudiodd yn Ysgol Ramadeg Croydon cyn ennill ysgoloriaeth i Goleg Sant Ioan, Caergrawnt yn 1928. Astudiodd dan Hector a Nora Chadwick, a daeth yn rhugl mewn chwech iaith Geltaidd.
Dychwelodd i Garegrawnt fel darlithydd mewn Celteg yn 1934, ac yn 1939 aeth i Harvard, lle daeth yn Athro Iaith a Llenyddiaeth Geltaidd. Yn 1950 daeth yn Athro Ieithoedd, Hanes a Hynafiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Caeredin, a bu yno hyd ei ymddeoliad yn 1979.
[golygu] Cyhoeddiadau
- Language and history in early Britain: A chronological survey of the Brittonic languages, first to twelfth century A.D. (1953)
- The Pictish Language yn F T Wainwright (gol) The Problem of the Picts (1955)
- Contributions to the study of Manx phonology (1955)
- "The Arthur of History" yn Arthurian Literature in the Middle Ages (1959)
- "Arthur in Early Welsh Verse" yn Arthurian Literature in the Middle Ages (1959)
- "The international popular tale and early Welsh tradition" Darlithoedd Gregynog, 1961 (1961)
- The oldest Irish tradition: A window on the Iron Age (1964)
- A Historical phonology of Breton (1967)
- The Gododdin: The Oldest Scottish poem (1969)
- A Celtic Miscellany : Translations from the Celtic Literature (1972)