Khazariaid
Oddi ar Wicipedia
Pobl Twrcaidd hanner crwydrol o Ganol Asia oedd y Khazariaid. Trodd llawer ohonynt i Iddewiaeth. Yn y seithfed ganrif OC sylfaenodd y Khazariaid wladwriaeth (khaganaeth) annibynnol yng ngogledd y Caucacus ar hyd y Môr Caspiadd. Yn yr wythfed neu yn gynnar yn y nawfed ganrif, derbyniwyd Iddewiaeth fel y grefydd swyddogol. Mae'n bwnc llosg ai dim ond y bendefigaeth drodd at y grefydd newydd, neu drwch y boblogaeth hefyd. Ar eu hanterth, roedd y Khazariaid a'r pobloedd oedd yn ddarostyngedig iddynt yn rheoli ardal eang sydd heddiw yn cwmpasu de Rwsia, gorllewin Kazakhstan, dwyrain Wcráin, Azerbaijan, rhannau helaeth o'r Caucasus (gan gynnwys Dagestan a Georgia) a'r Crimea. Mae'n debyg bod yr enw yn gysylltiedig â gwreiddyn berfol Tyrcig yn golygo 'crwydro'.
Roedd y Khazariaid yn gynghreiriaid pwysig i'r Ymerodraeth Fysantaidd yn erbyn yr Ymerodraeth Sassanaidd ac wedyn y Galiphaeth, y Pechenegiaid a Rws. Arweiniasant gyfres o ryfeloedd llwyddiannus yn erbyn y Caliphaethau Arabaidd. Mewn cyfnod diweddarach, fodd bynnag, cefnodd y Bysantiaid arnynt, gan droi yn eu lle at Rws ac at y Pechenegiaid yn erbyn y Khazariaid. Rhwng 965 a 969, fe'u trechwyd gan Svyatosloav I o Kiev, gan gael eu darostwng i reolaeth Rws Kiefaidd. Erbyn heddiw, mae'r Khazariaid wedi diflannu fel pobl wahanol.