Kliment Ohridski
Oddi ar Wicipedia
Archesgob cyntaf Bwlgaria ac ysgolhaig disglair oedd Sant Kliment Ohridski (tua 840 – 27 Gorffennaf 916). Fel disgybl i Sant Cyril a Sant Methodius, cymerodd ran yn y genhadaeth i ddwyn Cristnogaeth i Moravia yn yr 860au. Gorfu ffoi oddi yno, ar ôl adeg yn y carchar, yn 885 neu 886, pryd chwalwyd gweithgareddau'r clerigwyr Slafonaidd gan yr eglwyswyr Almaenig yno. Gyda Naum Preslavski, cyrhaeddodd brifddinas Bwlgaria, Pliska, lle y'i croesawyd gan Boris I, a'i cefnogodd i addysgu clerigwyr newydd Bwlgaraidd. Hybodd ddiwylliant Bwlgaria drwy gyflwyno'r iaith Slafoneg fel iaith litwrgi'r eglwys (yn lle'r Roeg) a drwy sefydlu dwy ysgol lenyddol yn defnyddio'r iaith yn Pliska ac yn Ohrid.
Fe'i hordeiniwyd fel archesgob Drembica yn 893, wedyn fel archesgob Ohrid. Ysgrifennodd nifer o destunau pwysig mewn Slafoneg Eglwysig Fwlgaraidd, gan gynnwys un o fucheddau Sant Cyril a Sant Methodius. Ar ôl ei farwolaeth yn 916, fe'i claddwyd yn Eglwys Pantaleimon ger Ohrid. Heddiw mae'r prifysgolion yn Sofia a Bitola yn dwyn ei enw.