Końskowola
Oddi ar Wicipedia
Mae Końskowola yn bentref yn ne-ddwyrain Gwlad Pwyl, rhwng Puławy a Lublin, ger Kurów, ar Afon Kurówka. Mae'n ganolfan cymuned ar wahan o fewn Swydd Puławy. Yn 2004 roedd y boblogaeth yn 2188.
Sefydlwyd y pentref yn ôl pob tebyg yn y 14eg ganrif dan yr enw Witowska Wola. Newidiwyd yr enw i Konińskawola yn y 19eg ganrif. Meddiannwyd yr ardal gan fyddin yr Almaen yn 1939, ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd sefydlwyd gwersyll carcharorion a gwersyll llafur yma, ynghyd a ghetto i Iddewon, yn cynnwys llawer o Slovakia. Ym mis Hydref 1942 lladdwyd tua 800-1000 o boblogaeth y ghetto gan y fyddin Almaenig, a symudwyd y gweddill i wersyll arall.