Korosten
Oddi ar Wicipedia
Dinas hanesyddol yn oblast (rhanbarth) Zhytomyr yn ngogledd Wcráin yw Korosten (Wcraineg a Rwsieg Коростень / Korosten). Saif ar Afon Uzh. Ei phoblogaeth yw 66,300 (amcangyfrif 1 Ionawr 2005). Mae chwareli ithfaen yn agos i'r ddinas, a ffatri borslen yn y ddinas ei hun.
Credir i'r ddinas gael ei sefyldu yn yr wythfed ganrif. Cynhaliwyd dathliadau swyddogol ei miltrichanmlwyddiant yn 2005. Mae'r cyfeiriad cyntaf ati yn dyddio i'r flwyddyn 914. Y pryd hynny, ei henw oedd Iskorosten. Prifddinas y Drevlyane oedd hi, un o lwythi'r Slafiaid Dwyreiniol. Llosgwyd y ddinas i'r llawr gan Olga, Tywysoges Kiev yn 945, yn ddial am i'r Drevlyane laddu ei gŵr Igor. Wedi hynny, daeth Korosten yn rhan o Dywysogaeth Kiev.
Goresgynwyd y ddinas a'i distrywio gan y Mongoliaid ym 1240, ac o 1370 roedd yn rhan o Lithwania, wedyn Gwlad Pwyl. Rhoddwyd siarter dinas iddi yn 1589. Yn 1795, fe'i meddiannwyd gan Ymerodraeth Rwsia. Roedd yn ddinas ranbarthol ddibwys yn ystod y 19eg ganrif. Cynyddodd ei statws ar ôl 1902, pryd adeiladwyd gorsaf reilffordd, a phryd cafodd y ddinas ei hailenw gyda'i henw presennol Korosten.
Distrywiwyd y ddinas yn llwyr yn yr Ail Ryfel Byd, ac effeithwyd yn ddifrifol arni gan gyflafan niwclear Chernobyl yn 1986.