Ku Klux Klan
Oddi ar Wicipedia
Mudiad terfysgol a hiliol oedd y Ku Klux Klan. Dynion oeddynt oedd yn gwisgo mygydau a chlogynnau gwynion, gan ddefnyddio trais a braw i ddychryn unrhyw Americanwr du neu wyn, a oedd yn cefnogi hawliau cyfartal i'r du a'r gwyn. Cafodd ei sefydlu yn Nhaleithiau deheuol America yn syth ar ôl y rhyfel cartref. Roeddynt yn benderfynol o atal y caethweision du oedd newydd gael eu rhyddid, rhag ennill hawliau cyfartal a'r Americanwyr gwyn eraill. Yn y 1920au bu cynnydd yn y nifer o aelodau'r Klan, yn 1923, roedd y Klan ar ei chryfaf gyda 5 miliwn o aelodau yn cynnwys swyddogion yr heddlu, barnwyr a gwleidyddion. Aeth apel y mudiad trwy America, nid yn unig yn Nhaleithiau'r De.ru-sib:Ку-Клукс-Клан