Kyoto
Oddi ar Wicipedia
Dinas hynafol yng nghanolbarth Siapan, yn ne ynys Honshu, yw Kyoto. Mae wedi bod yn ganolfan diwylliant pwysig iawn ers y cyfnod Heian pan fu'n brifddinas y wlad (794 - 1192). Erys nifer o balasau a themlau hynafol yn y ddinas. Mae'n ddinas bwysig i ddilynwyr Shinto. Fe'i hystyrir yn ganolfan bwysicaf Bwdhiaeth Siapanaidd yn ogystal.
Cafodd Cytundeb Kyoto ei arwyddo yno, a oedd yn ceisio arafu effeithiau cynhesu byd eang.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.