Léon Georget
Oddi ar Wicipedia
![]() |
|
Manylion Personol | |
---|---|
Enw Llawn | Léon Georget |
Llysenw | Le Père Bol d'Or, Gros Rouge neu Le Brutal |
Dyddiad geni | 2 Hydref 1879 |
Dyddiad marw | 5 Tachwedd 1949 |
Gwlad | ![]() |
Gwybodaeth Tîm | |
Disgyblaeth | Trac a ffordd |
Rôl | Reidiwr |
Math o reidiwr | Dygnwch |
Prif gampau | |
Bol d'Or, 9 gwaith | |
Golygwyd ddiwethaf ar: | |
20 Medi, 2007 |
Seiclwr proffesiynol Ffrengig oedd Léon Georget (ganwyd 2 Hydref 1879, Preuilly-on-Claise; bu farw 5 Tachwedd 1949), bu'n broffesiynol rhwng 1902 a 1927. Roedd yn frawd hyn i'r seiclwr proffesiynol arall, Émile Georget.
Roedd y Bol d'Or (Cymraeg: Y bowlen aur) yn brawf caled ar gyfer seiclwyr trac, syniad cyfarwyddwr papur newydd y Paris-Pédale, Mr Decam, oedd y ras, a chynigwyd y wobr, powlen efydd goreurog, gan Chocolats Meunier. Bwriad y ras oedd i rasio am 24 awr, y tu ôl i hyfforddwr ar gefn motobeic. Rhwng 1894 a 1928, delwyd y ras yn Vélodrome Buffalo, neu'r Vélodrome d'Hiver. Bu Georget yn aml yn reidio dros 900 km yn ystod y ras.
Enillwyd y ras yn 1904 gan Lucien Petit-Breton.
[golygu] Canlyniadau
- Bol d'or: Enillodd hwn 9 gwaith rhwng 1903 a 1919, gan gynnwys 8 cyn y rhyfel (2il 1904; 3ydd 1906 a 1924). (Record Léon: 914 km mewn 24 awr)
- 24 awr o Frwsel: 1906 (gyda'i frawd, Emile)
- Ras Chwe diwrnod Toulouse: 1906 (gyda Emile)
- 2il Bordeaux-Paris: 1903 (3ydd 1910)
- 3ydd Ras Chwe diwrnod Efrog Newydd: 1907 (cymerodd ran gyda Emile hefyd yn 1906, 1909 ac 1911)
- 8fed Tour de France: 1906 (y flwyddyn gyntaf i ddau frawd gyflawni'r tour) Cystadlodd yn 1903, 1907 ac 1908 ond ni orffennodd Léon y ras yn y blynyddoedd rheiny.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.