Lefiathan
Oddi ar Wicipedia

Anghenfil chwedlonol dinistriol sy’n byw yn nyfnderoedd y môr yw Lefiathan. Cyfeirir at Lefiathan sawl gwaith yn y Beibl. Duw a’i creodd er difyrrwch (gw. Salm. 104.25-26).
Ceir disgrifiad llawn a lliwgar yn Llyfr Job (Job 41). Dywedir amdano, Nid oes tebyg iddo ar y ddaear, creadur heb ofn dim arno. Y mae’n edrych i lawr ar bopeth uchel; ef yw brenin yr holl anifeiliaid bach (Job 41.33-34). Dywed Duw wrth Job am Lefiathan, Os ceisir ei drywanu â’r cleddyf, ni lwyddir, nac ychwaith â’r waywffon, na’r dagr, na’r bicell. Y mae’n trafod haearn fel gwellt, a phres fel pren wedi pydru. Ni all saeth wneud iddo ffoi, ac y mae’n trafod cerrig-tafl fel us. Fel sofl yr ystyria’r pastwn, ac mae’n chwerthin pan chwibana’r bicell (Job 41.26-29). Mae’n ddychrynllyd ei olwg. Pan ddaw Duw i waredu Israel bydd yn cosbi Lefiathan, y sarff wibiog, Lefiathan, y sarff gordeddog, ac yn lladd y ddraig sydd yn y môr (Eseia 271). Mae ganddo sawl pen yn ôl y Salmydd: Ti, â’th nerth, a rannodd y môr; torraist bennau’r dreigiau yn y dyfroedd. Ti a ddrylliodd bennau Lefiathan, a’i roi’n fwyd i fwystfilod y môr (Salm 74.13-14).
Gellid ei gymharu â Behemoth, anghenfil arall o'r traddodiad Beiblaidd, sy’n tra-arglwyddiaethu ar anifeiliaid y tir yn yr un modd ag y mae Lefiathan yn ben ar greaduriaid y môr. Gelwir brenhinoedd gormesol wrth ei enw. Yn yr Oesoedd Canol credid yr ymddangosai fel un o’r arwyddion o ddiwedd y byd a’r Farn Fawr: Llwyth byt yg griduan; / Ergelawr [huan]; / Dygetawr Llawethan (Armes Dydd Brawd¹, BBGCC 20.27-9).
Mae'r athronydd Seisnig Thomas Hobbes yn benthyg yr enw yn ei lyfr dylanwadol Leviathan; yno saif yr anghenfil am Lywodraeth sydd efallai yn ddychrynyllyd oherwydd ei nerth a'i gallu ac eto'n angenreidiol er lles dynolryw.
[golygu] Llyfryddiaeth
Daw'r dyfyniadau o'r Beibl Cymraeg Newydd.
- Marged Haycock (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (1994). (=BBGCC uchod).
- J.C.J. Metford, Dictionary of Christian Lore and Legend (Llundain, 1983). ISBN 0500273731
[golygu] Cysylltiadau allanol
- Putting God on Trial- The Biblical Book of Job Lefiathan mewn llenyddiaeth.