Leipzig
Oddi ar Wicipedia
Dinas yw Leipzig (IPA: ˈlaiptsɪç) (Lipsk yn y Sorbeg) yn Freistaat Sachsen, Yr Almaen. Fe'i leolir ger man cwrdd yr afonnydd Pleiße, Elster Wen a Parthe. Mae ganddi boblogaeth o dua 502,000. Mae'r cyfnod cyntaf o Leipzig yn dyddio o 1015, ac fe'i adnabyddir ers hynny fel tref fasnachol. Sefydlwyd ei phrifysgol ym 1409, ac mae'n enwog fel dinas dysg. Yma fu farw Johann Sebastian Bach, ac a anwyd Gottfried Wilhelm von Leibniz a Richard Wagner.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.