Lhasa
Oddi ar Wicipedia
Lhasa yw prifddinas draddodiadol Tibet a phrifddinas Talaith Ymreolaethol Tibet dan lywodraeth China. Y ddinas yw canolfan draddodiadol y Dalai Lama ac mae Bwdhaeth Tibet yn ei hystyried y ddinas fwyaf sanctaidd yn Tibet.
Mae'r ddinas yn un o'r rhai uchaf yn y byd, tua 3,650 m (11,975 troedfedd). Mae'r boblogaeth tua 255,000.
Ymhlith yr adeiladau o ddiddordeb mae Palas Potala, Teml Jokhang a Mynachlog Sera Monastery. Yn 2006 agorwyd rheilffordd yn cysylltu Lhasa a Beijing.