LHDT
Oddi ar Wicipedia
Mae'r talfyriad LHDT yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, a Thrawsryweddol. Mae'n addasiad o'r talfyriad hŷn LHD. Er ei fod dal yn ddadleuol, caiff ei ystyried yn llai ddadleuol na queer ac yn fwy cynhwysfawr na chyfunrywiol neu hoyw.
Mae nifer o amrywiolion yn bodoli. Mae'r rhai fwyaf cyffredin yn ychwanegu Q am queer, C am cwestiynu neu cynghreiriaid, A am anrhywiol neu am arall i gynnwys pob term posib, D arall am Dau-Enaid, R am rhyngrywiol, neu H arall am hollrywiol.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Ystyr pob term
Mae pob term yn y llythrenw yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at aelodau'r grŵp penodol ac at y gymuned (isddiwylliant) sy'n amgylchynu nhw.
[golygu] Lesbiaidd
Yn y cyd-destun hwn, mae lesbiaidd yn cyfeirio at fenywod gyda chyfeiriadedd rhywiol hollol tuag at fenywod.
[golygu] Hoyw
Yn y cyd-destun hwn, mae hoyw yn cyfeirio'n benodol at wrywod gyda chyfeiriadedd rhywiol hollol tuag at wrywod.
[golygu] Deurywiol
Mae deurywiol yn cyfeirio at bersonau sy'n cael mwy nag un ryw yn atyniadol. Tra'n draddodiadol mae deurywioldeb wedi'i ddiffinio fel atyniad tuag at wrywod a benywod, yn gyffredinol mae'n cynnwys hollrywioldeb, atyniad lle nad yw rhyw'r partner o bwys (h.y. tuag at hunaniaethau gwrywol, benywol, ac unrhyw hunaniaethau eraill). Mae deurywioldeb yn cynnwys unrhywbeth rhwng cyfeiriadeddau rhywiol anrhywioldeb, cyfunrywioldeb, a heterorywioldeb.
[golygu] Trawsryweddol
Defnyddir trawsryweddol yn gyffredinol fel term mantell ar gyfer amrywiaeth o unigolion, ymddygiadau, a grwpiau wedi'u canolbwyntio o amgylch y gwrthdroad llawn neu rannol o swyddogaethau rhyweddol yn ogystal â therapïau newid rhyw corfforol (gall bod yn hormonaidd neu gynnwys newidiadau llawfeddygol). Diffiniad cyffredin yw pobl sy'n teimlo nad yw'r rhywedd a roddir iddynt (pan ganwyd) yn ddisgrifiad cywir neu lawn ohonynt. Cynhwysir yn y diffiniad hwn nifer o is-gategorïau megis trawsrywiolion, trawswisgwyr ac weithiau pobl ryngryweddol. (Gweler hefyd croeswisgo.)
[golygu] Cysylltiadau allanol
- Tudalen ar wefan Undeb Myfyrwyr Bangor gyda gwybodaeth ar hanes LHDT
- Geiriadur Stonewall o dermau defnyddiol cydraddoldeb, yn cynnwys nifer o eirfa LHDT
|
||
---|---|---|
Cyfunrywioldeb | Agweddau crefyddol • Agweddau cymdeithasol • Bioleg • Homoffobia • Hoyw • Lesbiaeth • Meddygaeth • Queer • Seicoleg | ![]() |
Deurywioldeb | Chic deurywiol • Deu-chwilfrydig • Hollrywioldeb • Rhywioldeb carchar | |
Trawsrywedd | Agweddau cyfreithiol • Croeswisgo • Cyfunrywioldeb a thrawsrywedd • Dau-Enaid • Rhyngrywedd • Rhywioldeb trawsrywiol • Therapi ailgyfeirio rhyw • Trawsrywioldeb • Trawswisgo • Trydedd rywedd | |
Hanes | Llinell amser • Yr Almaen Natsïaidd a'r Holocost • Rhyddhad Hoyw • Terfysgoedd Stonewall | |
Diwylliant | Balchder hoyw • Bar hoyw • Cenedlaetholdeb queer • Cymuned ddeurywiol • Cymuned hoyw • Demograffeg • Eicon hoyw • Gay Games • Mudiadau cymdeithasol • Pentref hoyw • Slang hoyw • Symbolau LHDT • Twristiaeth hoyw • Y Bunt Binc | |
Hawliau a chymhwysiad | Deddfwriaeth yn ôl gwlad • Datganiad Montreal • Deddf sodomiaeth • Dod allan • Gwasanaeth milwrol • Heteronormadedd • Heterorywiaeth • Mabwysiad • Partneriaeth sifil (DU) • Priodas gyfunryw • Rhieni • Trais yn erbyn pobl LHDT • Uniad sifil | |
Categorïau | Cyfeiriadedd rhywiol a chymdeithas • Cyfeiriadedd rhywiol a gwyddoniaeth • Cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth • Cyfunrywioldeb • Deurywioldeb • Diwylliant LHDT • Hanes LHDT • Hawliau LHDT • Pobl LHDT • Trawsrywedd |