Libreville
Oddi ar Wicipedia
Libreville yw prifddinas a dinas fwyaf Gabon yng ngorllewin Affrica. Mae ganddi boblogaeth o 578,156 o drigolion (2005) allan o boblogaeth amcangyfredig o tua 1,383,000 ar gyfer y wlad i gyd (2006). Cafodd ei sefydlu yn 1849.
Mae Libreville yn borthladd lleoliedig ar aber Afon Komo, yn agos i Gwlff Guinea, ac mae'n ganolfan masnach pren coed trofaol. Mae'n ganolfan weinyddol Talaith l'Estuaire, y fwyaf yn Gabon.
Lleolir prif faes awyr Gabon yn Libreville, Maes Awyr Rhyngwladol Léon M'ba.