Lichfield
Oddi ar Wicipedia
Dinas fechan yng nganolbarth Lloegr yw Lichfield (Lladin Letocetum). Fe'i lleolir yn Swydd Stafford, 25km (14 milltir) i'r gogledd i Birmingham. Mae'n enwog am ei chadeirlan. Mae'n aros yn bwysig fel canolfan eglwysig, er nad yw wedi datblygu fel canolfan ddiwydiannol. Ei phoblogaeth yw 27,900 (Cyfrifiad 2001).
[golygu] Hanes
Daw enw Lichfield o'r Frythoneg *Leitocaiton, enw yn cynnwys elfennau cytras â'r geiriau Cymraeg cyfoes llwyd a coed. Benthyciwyd yr enw hwn gan y Rhufeiniaid fel y Lladin Letocetum, a ddatblygodd i elfen gyntaf yr enw modern. Ychwanegwyd yr elfen field mewn Saesneg Canol. Cyfeirir at y ddinas ym marddoniaeth Hen Gymraeg fel Caer Lwytgoed, yn adlewyrchu tarddiad yr enw (Williams 1945: 6).
Cedwir Llyfr Sant Chad, y llawysgrif sy'n cynnwys y darn hynaf Cymraeg ysgrifenedig, yng nghadeirlan Lichfield.
[golygu] Ffynonellau
- Williams. Ifor. 1945. Enwau lleoedd (Lerpwl: Gwasg y Brython).