Lisbon
Oddi ar Wicipedia
Prifddinas Portiwgal yw Lisbon neu Lisboa (Lisboa yw'r enw Portiwgaleg). Fe'i lleolir ar yr arfordir gorllewinol yng nghanolbarth Portiwgal. Hon yw canolfan fasnachol, gwleidyddol a diwylliannol y wlad. Mae'n gartref i lywodraeth Portiwgal ynghyd â saith prifysgol. Porthladd pwysica'r wlad yw Lisbon hefyd. Mae gan y ddinas ei hun boblogaeth o 564,477, gyda tua 2.8 miliwn yn yr ardal fetropolitanaidd.
Mae Pont Vasco da Gama, pont hwyaf Ewrop, yn croesi Afon Tagus (Afon Tejo) yn Lisbon, yn cysulltu'r ddinas â de Portiwgal. Ei hyd yw 17.2km (10.7 milltir).
[golygu] Gweler hefyd
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.