Little Rock
Oddi ar Wicipedia
Little Rock yw prifddinas talaith Arkansas yn ne canolbarth yr Unol Daleithiau. Fe'i lleolir ar lan Afon Arkansas yng nghanol y dalaith. Daeth i sylw'r byd yn 1957 pan gafwyd terfysgoedd mawr ar y stryd gan bobl gwyn yn protestio yn erbyn gadael i fyfyrwyr duon astudio yn yr ysgol uwchradd (high school) am y tro cyntaf erioed.