Cookie Policy Terms and Conditions Sgwrs Defnyddiwr:Lloffiwr - Wicipedia

Sgwrs Defnyddiwr:Lloffiwr

Oddi ar Wicipedia

Sgwrs Defnyddiwr:Lloffiwr/Archif 1


Taflen Cynnwys

[golygu] Categori

Diolch Eleri. Mae 'na gymaint i'w wneud yma! Dwi'n siwr fod pawb yn gwerthfawrogi eich cyfraniadau chi hefyd.

Mae un peth yn arbennig yn fy nrysu braidd, sef y defnydd o'r categorïau. Daw sawl pwynt i'r meddwl.

1. Dewis enw priodol ar gyfer categori newydd. Mae hi mor anhwylus ceisio chwilio yn y rhestr categorïau i weld a oes categori tebyg yn bodoli eisoes, a hynny yn bennaf am fod pob dyddiad yn cael ei gyfri fel categori. Onid oes modd cael rhestr ar ffurf "coeden", er enghraifft?
2. Pam nad yw'r prif gategorïau ar gael ar y ddalen Hafan (neu rywle arall fyddai'n gyfleus) er mwyn cael mynediad hwylus atynt? Ar hyn o bryd mae Llenyddiaeth, er enghraifft, yn eich cymryd i stwbyn o dudalen digon cyffredinol sy ddim yn llawer o iws i rywun, yn ymwelydd neu'n gyfranydd, sy'n chwilio am gategori penodol.

Dwi ddim yn gwybod os medrwch chi wneud rhywbeth i ddatrys hyn, ond yn fy marn i mae angen gwneud rhywbeth gynted â phosibl. Ar hyn o bryd mae ymwelydd yn debyg o fethu ffeindio hanner yr erthyglau ar y seit heb hir amynedd, a gresyn ydi hynny.

Fôn.Anatiomaros 22:37, 18 Medi 2006 (UTC)

Mae'n ddrwg gennyf fod cyhyd cyn ateb yr uchod. Rwyn cytuno bod angen gwelliant ar y categorïau ond hyd yn hyn, er crafu pen, heb weld y ffordd yn glir na bod â digon o egni i daclo'r peth. Y tudalennau help yw'r bwgan pennaf gen i ar hyn o bryd. Mae'n dda iawn gennyf eich gweld yn taclo busnes y categorïau ac yn ddigon parod i dreulio peth amser wrth hwn. Bydd yn well mynd â'r drafodaeth draw at y caffi ymhen hir neu hwyr ond rhof yr ymateb gyntaf fan hyn.

At eich pwyntiau:

  1. Y lle gorau i astudio posibiliadau cynllunio ar gyfer y categorïau yw Wikipedia Saesneg. Mae ganddynt goeden categorïau fan hynny ac rwyn credu mai rhywbeth gweddol o newydd yw hynny (ac efallai heb lwyr ymgartrefu eto). Mae ganddynt hefyd 'quick index' yn nhrefn yr wyddor – byddai hynny'n ateb y broblem bod y rhestr categorïau yn drwsgl iawn.
  2. A ydych wedi gweld bod Adam7Davies wedi bod wrthi'n ail-wampio'r dudalen hafan? Mae'r drafft ar Defnyddiwr:Adam7davies/Hafan. Dyma gyfle felly i adnewyddu'r cysylltiadau presennol ar hafan. Falle y bydde'n syniad gweld pa gategorïau sy'n weddol lawn yn barod a'u rhoi ar yr hafan, serch nad ydynt efallai yn brif gategorïau, er mwyn hwyluso mynediad at yr erthyglau sydd yn bod.

Problem mwy i ni yw bod angen llawer yn rhagor o erthyglau sy'n cyflwyno categorïau er mwyn creu cyfanwaith i'w bori! Ar y cyfan mae wicipedia yn llawn dechreuadau pethau sydd fel y soniaist am y cyswllt i Lenyddiaeth yn gallu siomi'r darllenydd yn rhwydd. Amser i wicipedia gael tyfu yw'r unig ateb hirdymor.

Mae sawl un o'r Wicïau erall wedi ehangu digon i fod â phorthau yn hytrach na chategorïau fel eu prif offer llywio drwy'r wici. Mae Adam wedi gwneud bocs llywio ar gyfer y Gymraeg, gan bod hwnnw'n ddigon mawr i wneud hynny. Mae potensial i ni ddechrau pyrth a bocsys llywio ar gyfer rhai adrannau eraill megis adar, Cymru a phobl.

Dyna ddigon am nawr. Diolch i chi am ddechrau trafodaeth ar hwn. Lloffiwr 11:30, 1 Hydref 2006 (UTC)

[golygu] Gweinyddu

Diolch am y neges, dim ond wedi ei ddarllen rŵan am i mi fod yn teithio am sbel. Byswn yn fodlon bod yn weinyddwr, a bwrw nad ydw i'n gorfod treulio gormod o amser yn ganlyniad :-) hwyl, -Llygad Ebrill 19:43, 3 Awst 2007 (UTC)

[golygu] Macbeth

Drwg gennyf am hynny. Dilyn yr hyn a welais yn cael ei wneud yn achos erthyglau eraill am frenhinoedd wnes i. Rydych yn iawn, mae B fawr yn edrych yn fwy safonol yn y cyd-destun. Dim problem! Cofion, Anatiomaros 21:55, 22 Awst 2007 (UTC)

[golygu] Mynegai i'r categorïau

Syniad da, a diolch am godi'r mater o gategoreiddio (ac am y ganmoliaeth!). Byddai'n ymgeisio ar greu mynegai o fewn yr wythnos neu bythefnos nesaf. --Adam (Sgwrs) 22:16, 2 Medi 2007 (UTC)

[golygu] Blwch golygiad bychan

Diolch am newid hwn - dw i newydd newid mân bethau mewn erthygl ac roedd yn bleser cael ticio'r blwch ar ei newydd wedd!! Jac y jwc 19:50, 31 Hydref 2007 (UTC)

[golygu] Elerydd

Diolch am ychwanegu Elerydd at y rhestr o fynyddoedd yng Nghymru. Dwi'n cyfarwydd â'r enw ers tro byd ond dwi'n cyfaddef mai syniad go elwig sy gennyf o faint yr ardal. Oes 'na ddiffiniad "swyddogol" neu safonol? Dwi'n cael fy nhemtio i ddefnyddio'r enw yn lle "Mynyddoedd Cambriaidd" (enw estron a disynnwyr) ar gyfer bryniau gorllewin Powys (o Bumlumon i odre gogledd Sir Gâr); a fyddai'r enw'n gymwys am yr ardal honno i gyd? Cofion, Anatiomaros 23:10, 2 Tachwedd 2007 (UTC)

Diolch am yr eglurhad a'r wybodaeth. Mae Elerydd yn enw mor hyfryd a swynol, cymaint gwell na'r hen "Fynyddoedd Cambriaidd" 'na (sydd mewn gwirionedd yn derm daearegol am fynyddoedd Cymru i gyd). Elerydd y bo, felly (ond dim heno!). Anatiomaros 23:24, 2 Tachwedd 2007 (UTC)
Diolch am eich gwaith yn cymhenu'r erthygl ar Benmaenmawr; mae'n syndod faint o gamgymeriadau gall rhywun wneud wrth deipio! Dwi wedi creu eginyn o erthygl ar Elerydd, gyda llaw. Tybed, pe bai gennych yr amser, fedrwch chi fwrw golwg arni ac efallai ychwanegu unrhyw wybodaeth berthnasol? Rhyfedd cyn lleied o gyfeiriadau sydd at y bryniau hyn mewn llyfrau Cymraeg, a phan geir cyfeiriad un moel ydyw fel rheol. Ond o leiaf mae gennym ni rywbeth am rwan. Cofion, Anatiomaros 19:29, 6 Rhagfyr 2007 (UTC)
Static Wikipedia 2008 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -

Static Wikipedia 2007 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -

Static Wikipedia 2006 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu