Llyn Dwythwch
Oddi ar Wicipedia
Llyn ar lethrau yr Wyddfa yn Eryri yw Llyn Dwythwch. Saif y llyn, sydd ag arwynebedd o 24 acer, yng Nghwm Dwythwch, i'r dwyrain o gopa Moel Eilio ac i'r gogledd o Foel Gron a Foel Goch.
Mae Afon Hwch yn llifo o'r llyn tua'r gogledd-ddwyrain, ac yn ymuno ag Afon Arddu o Llyn Du'r Arddu cyn llifo heibio pentref Llanberis ac ymuno a'r afon rhwng Llyn Peris a Llyn Padarn. Ceir nifer o olion cytiau cynhanesyddol yn yr ardal.
Cysylltir y llyn a chwedlau am y Tylwyth Teg, a dywedid na fyddai trigolion Gwaun Cwm Brwynog yn gadael i'w plant fynd yn agos at y llyn, rhag iddynt gael eu cipio gan y Tylwyth.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Geraint Roberts, The lakes of Eryri (Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1995). ISBN 0-863811-338-0