Macbeth, brenin yr Alban
Oddi ar Wicipedia
Macbeth (c.1005 - 15 Awst, 1057) oedd brenin yr Alban o 1040 hyd ei farwolaeth yn 1057. Ei daid oedd Malcolm II. Priododd Gruoch wyres Kenneth II o'r Alban.
Yn 1040 gorchfygodd y brenin Duncan o'r Alban a'i ladd a gyrrodd ei feibion, Malcolm a Donald Bán, i alltudiaeth. Ar un olwg mae'n cynrychioli ymateb Celtaidd i ddylanwad Seisnig yn nheyrnas yr Alban.
Rheolodd am dros ddegawd, ond ar 15 Awst, 1057, fe'i lladdwyd gan Malcolm III o'r Alban, mab Duncan, ym mrwydr Lumphanan.
Seilir y ddrama Macbeth gan Shakespeare ar ei fywyd a thraddodiadau amdano. Ffynhonnell Shakespeare oedd y croniclydd Holinshed a dynnodd ar yr hanesydd Albanaidd Boyis Boece.