Madog ap Maredudd
Oddi ar Wicipedia
Madog ap Maredydd (bu farw 1160) oedd y brenin olaf i deyrnasu dros y cyfan o Deyrnas Powys. Roedd yn frenin cadarn a lwyddodd i reoli ac amddiffyn Powys am wyth mlynedd ar hugain.
Yr oedd Madog yn fab i Faredudd ap Bleddyn ac yn wyr i Fleddyn ap Cynfyn. Roedd yn frawd i Gruffudd ap Maredudd (m. 1128) a Iorwerth Goch. Dilynodd ei dad ar orsedd Powys yn 1132. Yr adeg yma yr oedd brenin Gwynedd, Owain Gwynedd, yn pwyso ar ororau Powys, er bod Madog yn briod a Susanna ferch Gruffudd ap Cynan, wyres Owain. Gwnaeth Madog gynghrair a Ranulf, Iarll Caer, ond llwyddodd Owain i'w gorchfygu a chymeryd tiroedd Iâl oddi wrth Madog.
Yn 1157 pan ymosododd y brenin Harri II o Loegr ar Wynedd cefnogwyd ef gan Madog,a llwyddodd i ad-ennill rhai o'i diroedd.
Bu Madog farw yn 1160, a chladdwyd ef ym Meifod, yn eglwys Sant Tysilio. Rhannwyd ei diroedd rhwng nifer o'i feibion a neiaint. Nid lwyddodd neb i uno'r deyrnas eto a ymrannodd yn Bowys Fadog a Phowys Wenwynwyn.
[golygu] Plant
- Llywelyn ap Madog (m. 1160)
- Gruffudd Maelor (m. 1191)
- Owain Fychan ap Madog (m. 1187)
- Efa ferch Madog
- Owain Brogyntyn
- Elise
[golygu] Noddwr y beirdd
Y bardd a gysylltir yn arbennig â Madog ap Maredudd a'i deulu yw Cynddelw Brydydd Mawr (fl. tua 1155 - 1195). Canodd ddwy gerdd i Fadog ei hun, dwy i'w fab Llywelyn a thair i Owain Fychan. Yn ogystal â'r cerddi hyn canodd Cynddelw i lys Madog, ei oesgordd a sawl perthynas iddo. Mae'r gerdd i Efa, ar ffurf arbennig o ganu serch a elwir yn rhieingerdd, yn arbennig o bwysig fel rhagflaenydd i'r canu serch llawn dychymyg a welir yng ngwaith y cywyddwyr. Ymddengys fod Cynddelw wedi treulio cyfnod hir yn llys y brenin ac yn dal tir yn y cyffiniau. Canodd Gwalchmai ap Meilyr ddwy gerdd i Fadog yn ogystal.
Mae'r chwedl fwrlesg Cymraeg Canol Breuddwyd Rhonabwy yn dechrau yn llys Madog ap Maredudd. Mae'n bosibl ei bod wedi'i llunio o fewn cenhedlaeth neu ddwy o farwolaeth Madog gan frodor o Bowys.
[golygu] Llyfryddiaeth
- J.E. Lloyd, Hanes Cymru (1911)
- Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion)