Maes Meidiog
Oddi ar Wicipedia
Ardal ym mhlwyf Caereinion a safle brwydr yno ar 5 Mawrth 1295 rhwng Madog ap Llywelyn a Iarll Warwig yw Maes Meidiog.
Roedd byddin Madog ar ei ffordd i lawr i Bowys pan gafodd ei dal yn annisgwyl gan luoedd Warwig. Trechwyd Madog a'i ddilynwyr yn llwyr a dyna ddiwedd ar y gwrthryfel i bob pwrpas.
[golygu] Darllen pellach
- John Griffiths, "The Revolt of Madog ap Llywelyn, 1294-5", yn Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon (cyf. 16, 1955)