Magnus Bäckstedt
Oddi ar Wicipedia
Manylion Personol | |
---|---|
Enw Llawn | Magnus Bäckstedt |
Llysenw | Magnus Maximus |
Dyddiad geni | 30 Ionawr 1975 |
Gwlad | ![]() |
Taldra | 1.93m |
Pwysau | 94kg |
Gwybodaeth Tîm | |
Tîm Presennol | Liquigas |
Disgyblaeth | Ffordd a weithiau Trac |
Rôl | Reidiwr |
Math o reidiwr | Arbenigwr y Clasuron |
Tîm(au) Proffesiynol | |
1996–1997 1998–2001 2002–2003 2004 2005– |
Collstrop-Palmans Crédit Agricole Team Fakta Alessio-Bianchi Liquigas |
Prif gampau | |
Paris-Roubaix, 2004 Cam 1, Tour de France, 2005 |
|
Golygwyd ddiwethaf ar: | |
19 Medi, 2007 |
Seiclwr ffordd proffesiynol o Sweden ydy Magnus Bäckstedt (ganwyd 30 Ionawr 1975 yn Linköping, Östergötland). Mae'n reidio dros dîm Liquigas. Mae Magnus wedi ennill y llysenw 'Magnus Maximus' (Cymraeg: Magnus Mawr) gan ei fod yn 193 centimedr o daldra â phwysau o 94 cilogram, ef yw un o'r seiclwyr mwyaf ym myd seiclo proffesiynol. Dechreuodd ei yrfa proffesiynol gan reidio i dîm Collstrop yn 1996, cyn symyd ymlaen i dîm Palmans yn 1997. Wedi newid i dîm GAN, yn 1998, dechreuodd lwyddiant proffesiynol Bäckstedt gyda 7fed safle yn ras Paris-Roubaix abuddugoliaeth ar Gam 19 y Tour de France rhwng Chaux-de-Fonds a Autun. Ailenwyd GAN yn Crédit Agricole ar ddechrau tymor rasio 1999 a cariodd Magnus ymlaen i fod yn aelod o'r tîm tan 2001, heb ail-adrodd ei lwyddiant o 1998.
Yn 2002 a 2003, reidiodd dros dîm Team Fakta, ef oedd y reidiwr cryfaf yn y tîm yn nhymor 2003. Wedi i dîm Team Fakta ddod i ben, symudodd i dîm Alessio-Bianchi a dychwelodd i lwyddiant yn ras Paris-Roubaix 2004. Symudodd i dîm Liquigas-Bianchi yn 2005, a bu'n ail safle ar Gam 7 y Tour de France, o Lunéville i Karlsruhe.
Bydd Bäckstedt yn reidio yn nhîm Team Slipstream yn nhymor 2008[1].
Mae Magnus yn briod i'r seiclwraig Cymreig, Megan Hughes ac mae ganddynt ddau o blant, ganed ei ferch hynnaf, Elynor Megan Bäckstedt yn Ionawr 2002, a Zoe Jane Bäckstedt yn Tachwedd 2004. Fel seiclwr proffesiynol mae Magnus wedi byw mewn sawl gwlad, bu'n byw yn Zulte, Gwlad Belg yn 2003. Erbyn heddiw, mae'n byw yn Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg, ac yn ôl y BBC, nid yw'r siwr os mai Swedwr neu Cymro ydyw bellach ac roedd yn ystyried cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad drost Gymru.[2]
[golygu] Canlyniadau
- 1996
- 1af Boland Bank Tour
- 1af 2 Gam o'r Boland Bank Tour
- 2il GP D'Isbergues
- 1997
- 1af GP D'Isbergues
- 1998
- 1af Cam 19, Tour de France
- 1af 1 Cam o'r Tour of Sweden
- 1af Cystadleuaeth Sbrint Four days of Dunkirk
- 2il Postgiro
- 1af Cam 4B, Postgiro
- 2000
- 2il Pencampwriaethau Cenedlaethol Rasio Ffordd, Sweden
- 2002
Pencampwr Cenedlaethol Rasio Ffordd, Sweden
- 1af GP Fayt le Franc
- 2003
Pencampwr Cenedlaethol Treial Amser, Sweden
- 1af Ctstadleuaeth 'Intergiro' Giro d'Italia
- 2il Pencampwriaethau Cenedlaethol Rasio Ffordd, Sweden
- 2il Nokere-Koerse
- 2il GP d'Ouverture la Marseillaise
- 2004
- 1af Paris-Roubaix
- 2il Gent-Wevelgem
- 2il CSC Classic
- 2005
- 2il Cam 7, Tour de France
- 2007
Pencampwr Cenedlaethol Rasio Ffordd, Sweden
Pencampwr Cenedlaethol Treial Amser, Sweden
[golygu] Dolenni Allanol
[golygu] Ffynhonellau
- ↑ Backstedt Bound For Slipstream-Chipotle londoncyclesport.com
- ↑ Village cheers on cycle hero BBC 3 Gorffennaf 2004