Mahmoud Ahmadinejad
Oddi ar Wicipedia
Mahmoud Ahmadinejad محمود احمدینژاد |
|
![]() |
|
Arlywydd Iran
|
|
Deiliad | |
Cymryd y swydd 3 Awst 2005 |
|
Is-Arlywydd(ion) | Parviz Davoodi |
---|---|
Rhagflaenydd | Mohammad Khatami |
|
|
Geni | 28 Hydref 1956 (51 oed) Aradan, Semnān, Iran |
Crefydd | Shi'a Islam |
Mahmoud Ahmadinejad (Persieg: محمود احمدی نژاد ) (neu Mahmud Ahmadinajad/ Ahmadinezhad / Ahmadi-Nejad / Ahmadi Nejad / Ahmady Nejad)(ganwyd 28 Hydref, 1956) yw arlywydd Iran. Cafodd ei eni yn Garmser, ger Tehran. Mae'n ddyn dysgedig a gafodd ddoethuriaeth (PhD). Cymerodd drosodd ar ôl Mohammad Khatami fel chweched arlywydd ei wlad ar 3 Awst, 2005.
O ran ei wleidyddiaeth mae'n geidwadwr ar un ystyr ac eto'n awyddus i weld rhai newidiadau yn Iran, yn arbennig ym myd addysg wyddonol a datblygiad economaidd.
Mae'n adnabyddus am ei feirniadaeth hallt o lywodraeth George W. Bush yn yr Unol Daleithiau ac Israel. Yn ddiweddar mae Ahmadinejad wedi denu sylw am ei barodrwydd i barhau â rhaglen niwclear Iran yn wyneb comdemniad y Gorllewin, ac yn neilltuol America. Yn ogystal mae wedi datgan ei fod yn dymuno gweld Israel yn cael ei dileu o fap y byd ac wedi mynegi ei farn nad oedd yr Holocost hanner mor eang ag a dybir yn gyffredinol.
[golygu] Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwefan swyddogol Arlywydd Iran
- (Perseg) Blog yr Arlywydd Ahmadinejad
Rhagflaenydd: Mohammad Khatami |
Arlywydd Iran 3 Awst 2005 – presennol |
Olynydd: deiliad |
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.