Malpas (Casnewydd)
Oddi ar Wicipedia
Cymuned sy'n rhan o ardal adeiledig Casnewydd yw 'Malpas. Saif yn y rhan ogleddol o Gasnewydd. Daw'r enw o'r Hen Ffrangeg, Mal a pas; lle anodd mynd heibio iddo.
Sefydlwyd mynachdy yma gan Urdd Cluny tua 1110. Ail-adeiladwyd yr eglwys tua 1850; yn y fynwent mae bedd Thomas Protheroe, prif wrthwynebydd John Frost.