Margaret Thatcher
Oddi ar Wicipedia
Margaret Thatcher | |
|
|
Cyfnod yn y swydd 4 Mai 1979 – 28 Tachwedd 1990 |
|
Rhagflaenydd | James Callaghan |
---|---|
Olynydd | John Major |
|
|
Geni | 13 Hydref 1925 Grantham, Swydd Lincoln |
Plaid wleidyddol | Ceidwadol |
Priod | Denis Thatcher |
Llofnod |
Margaret Hilda Thatcher (née Roberts) (ganwyd 13 Hydref 1925), Prif Weinidog Ceidwadol Prydain 1979 i 1990, a'r ddynes gyntaf i ddal y swydd. Ni wnaeth neb fwy na hi i chwalu'r consensws gwleidyddol wedi'r Ail Ryfel Byd. Yr oedd yn benderfynol o estyn y farchnad rydd, ac yn ystod ei llywodraeth hi, preifateiddiwyd llu o wasanaethau cyhoeddus a diwydiannau a wladolwyd gan lywodraeth Llafur, gan gynnwys y rheilffyrdd, dŵr, trydan, nwy, olew, glo a dur. Ei sedd seneddol oedd Finchley yn Llundain.
Daeth yn symbol o'r gwrthdaro rhwng y chwith a'r dde ym Mhrydain, yn enwedig yn ystod Streic y Glowyr 1984 i 1985. Cymaint oedd ei dylanwad hi fel y llwyddodd i weddnewid gwleidyddiaeth Prydain yn gyfan gwbl, gan baratoi'r ffordd ar gyfer Llafur Newydd.
Rhagflaenydd: John Crowder |
Aelod Seneddol dros Finchley 1959 – 1992 |
Olynydd: Hartley Booth |
Rhagflaenydd: Edward Heath |
Arlywydd y Blaid Geidwadol 1975 – 1990 |
Olynydd: John Major |
Rhagflaenydd: James Callaghan |
Prif Weinidog y Deyrnas Unedig 4 Mai 1979 – 28 Tachwedd 1990 |
Olynydd: John Major |