Marged uch Ifan
Oddi ar Wicipedia
Cymeriad a ddaeth yn enwog yn nhraddodiad gwerin Eryri oedd Marged uch Ifan neu Marged vch Ifan (1696 - 1788?). Roedd yn enwog am ei nerth anhygoel a'i gallu i ganu'r delyn ymysg campau eraill.
Dywedir ei bod yn wreiddiol o Ddyffryn Nantlle, lle roedd yn cadw tafarn y Telyrniau. Sumudodd wedyn i fyw ym Mwthyn Penllyn ger Llyn Padarn, lle roedd yn ennill bywoliaeth trwy gludo mwyn copr o fwyngloddiau Nant Peris mewn cwch i ben isa'r llyn ger Brynrefail. Ceir llawer o wybodaeth amdani gan Thomas Pennant, a ymwelodd a'i thŷ ar ei daith trwy Gymru yn 1786, dim ond i ddarganfod ei bod oddi cartref ar y pryd. Roedd yn enwog fel helwarig, a dywedid ei bod hi a'i chŵn yn dal mwy o lwynogod mewn blwyddyn nag y gallai neb arall eu dal mewn deng mlynedd. Roedd yn enwog am ei nerth, a dywedid ei bod yn medru ymaflyd codwm ag unrhyw un hyd yn oed pan oedd yn 70 oed. Adroddir i un o'r mwynwyr copr, dyn mawr cryf, gamdrin un o'i chŵn unwaith, ac i Marged roi dyrnod iddo a'i tarawodd yn anymwybodol, a dywedai'r rhai a'i gwelodd y byddai un ddyrnod arall debyg wedi ei ladd.
Ceir côf am ei gallu i ganu'r delyn yn yr hen bennill adnabyddus (gyda nifer o fersiynau ychydig yn wahanol):
- Mae gan Farged fwyn uch Ifan
- Delyn fawr a thelyn fechan
- Un i'w chanu yn nhref Caernarfon
- Ac un i gadw'r gŵr yn fodlon