Mark Williams
Oddi ar Wicipedia
Chwaraewr snwcer o Cwm, Gwent yw Mark J Williams (ganwyd 21 Mawrth, 1975). Mae wedi ennill 16 twrnamaint graddedig, gan gynnwys dwy Bencampwriaeth Byd, a'r chwaraewr llaw chwith cyntaf i ennill Pencampwriaeth Byd. Yn 1996 enillodd Pencampwriaeth Agored Cymru a'r Grand Prix, ac yna yn 1998 enillodd y Masters. Roedd tymor 1999/2000 yn bwysig yn ei yrfa pan enillodd Pencampwriaeth y Deyrnas Unedig a Phencampwriaeth y Byd ynghyd a nifer o enillion eraill i gyrraedd y reng gyntaf Yn 2002/2003 enillodd y Deyrnas Unedig, y Masters a Phencampwriaeth y Byd. Gwnaeth hyn ef y pedwerydd chwaraewr i ddal y tri teitl ar yr un pryd, gan ddilyn Stephen Henry, Steve Davies a John Higgins
Ar yr 20 Ebrill 2005 daeth y Cymro cyntaf, a'r pumed yn hanes Pencampwriaeth y Byd i wneud 147.
Ei hyfforddwr oedd Terry Griffiths ond yn Ebrill 2006 daeth hynny i ben er iddynt barhau yn ffrindiau.
Cyfeirir ato yn aml fel Mark J williams i'w wahaniaethu â Mark James arall o Loegr a oedd yn chwarae snwcer yn y 90au
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.