Mary Jones
Oddi ar Wicipedia
Roedd Mary Jones (1784 - 1864) yn ferch i wehydd o Lanfihangel-y-Pennant, Sir Feirionnydd.
Yn ferch ifanc bymtheg oed, cerddodd yn droednoeth o'i phentref ger Abergynolwyn yr holl ffordd i'r Bala yn 1800 er mwyn prynu Beibl gan y Methodist enwog Thomas Charles. Yn ôl traddodiad dyna'r digwyddiad a ysbrydolodd sefydlu Cymdeithas y Beibl yn 1804.
[golygu] Cofadail yn Llanfihangel-y-pennant
Ar flaen y gofadail i Mari Jones a godwyd ar safle adfeilion y bwthyn lle trigai yn Llanfihangel-y-pennant, ger pen gogleddol Pont Ty'n-y-fach, ceir yr arysgrif ddwyieithog hon:
YR HON YN Y FLWYDDYN 1800, Ar y mur allanol ceir 'Tyn y Ddol. Cartref Mari Jones' |