Massinissa
Oddi ar Wicipedia
Brenin cyntaf Numidia oedd Masinissa neu Massinissa (tua 238 CC - tua 148 CC).
Ganed Masinissa yn Cirta, prifddinas Numidia (Constantine yn Algeria heddiw), yn ail fab i Gaia, brenin y Massyli. Treuliodd ei ieuenctid yn ninad Carthago fel gwystl.
Pan ddechreuodd rhyfel rhwng Carthago a Gweriniaeth Rhufain, ymladdodd Masinissa dros Carthago. Er nad oedd ond 17 mlwydd oed, enillodd fuddugoliaeth ysgubol dros Syphax, brenin y Masaesyles, oedd wedi ochri gyda Rhufain. Bu wedyn yn arwain y gŵyr meirch Numidaidd yn yr ymladd yn Sbaen, lle bu ganddo ran yn y buddugoliaethau Carthaginaidd ym mrwydrau Castulo ac Ilorca. Wedi i Hasdrubal Barca adael am yr Eidal, gwnaed ef yn bennaeth holl ŵyr meirch Carthago yn Sbaen, a bu'n ymladd yn erbyn Scipio Africanus trwy 208-207 tra'r oedd Mago a Hasdrubal Gisgo yn codi byddin newydd. Fodd bynnag, gorchfygwyd hwy gan Scipio ym Mrwydr Ilipa.
Ar farwolaeth Gaia yn 206 CC, bu cweryl rhwng Masinissa a'i frawd Oezalces. Penderfynodd Masinissa droi i gefnogi Rhufain. Ymatebodd Hasdrubal trwy wneud cynghrair a Syphax, a briododd Sophonisba, merch Hasdrubal, oedd cynt wedi ei dyweddio a Masinissa.
Gorchfygwyd Hasdrubal a Syphax gan Scipio gyda chymorth Masinissa ym Mrwydr Bagrades (203 CC), a chymerwyd Syphax yn garcharor. Priododd Masinissa wraig Syphax, Sophonisba, ond roedd Scipio yn amau y byddai'n ceisio troi Masinissa yn erbyn Rhufain. Mynnodd fod rhaid ei chymeryd i Rufain fwel carcharor. Gyrrodd Masinissa wenwyn iddi, er mwyn iddi osgoi hyn trwy ei lladd ei hun.
Masinissa oedd yn bennaeth y gŵyr meirch ym Mrwydr Zama pan orchfygodd Scipio Hannibal a dod a'r rhyfel i ben. Rhoddwyd teyrnas Syphax iddo yn ychwanegol at ei deyrnas ei hun, gan greu teyrnas Numidia. Daliodd i ymestyn ei deyrnas hyd ddiwedd ei oes; ei ymosodiadau ef ar diriogaethau Carthago a ddechreuodd y trydydd rhyfel rhwng Carthago a Rhufain.