Mathemateg
Oddi ar Wicipedia
Yn fras, astudiaeth rhifau a ffigurau yw mathemateg. Diffiniwyd mathemateg gan amlaf fel astudiaeth o'r patrymau mewn ystrwythyr, newidiad, a gofod. Gellir gweld mathemateg fel estyniad o iaith, ai llafar neu ysgrifenedig, gyda geirfa a chystrawen trachywir tu hwnt, ar gyfer disgrifio ac archwilio perthnasau materol a chysyniadol. Daw'r gair mathemateg o'r Groeg μάθημα (máthema) sy'n golygu "gwyddoniaeth, gwybodaeth, neu ddysg" a μαθηματικός (mathematicós) sy'n golygu "yn hoff o ddysgu".
Gellir rhannu mathemateg, yn fras, yn mathemateg bur a mathemateg gymhysol (yn cynnwys mecaneg, ystadegaeth a thebygolrwydd).
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.