Melyd
Oddi ar Wicipedia
Sant o Gymro oedd Melyd. Ychydig iawn a wyddys amdano. Yr unig le sy'n gysylltiedig â fo heddiw yw plwyf a phentref Gallt Melyd yn Sir Ddinbych, gogledd-ddwyrain Cymru. Mae eglwys y plwyf yn gysegredig iddo ac yn dyddio o'r Oesoedd Canol, ond cafodd ei hadnewyddu'n sylweddol yn y 19eg ganrif.
Ger y pentref ceir Ffynnon Felyd. Mae'r hynafiaethydd Edward Lhuyd yn ei nodi yn ei Parochiala.
Cynhelid gwylmabsant Melyd ar 9 Mai.
[golygu] Cyfeiriadau
- T.D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000). Tud. 401.
- Francis Jones, The Holy Wells of Wales (Caerdydd, 1954). Tud. 179