Menna Richards
Oddi ar Wicipedia
Menna Richards yw Rheolwr BBC Cymru. Dechreuodd ar ei swydd ym mis Chwefror, 2000. Cyn hynny, bu'n Rheolwr-Gyfarwyddwr HTV Cymru, cwmni yn Grwp United News and Media sydd bellach yn rhan o ITV plc. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Maesteg a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth. Ar ôl graddio, ymunodd â BBC Cymru fel newyddiadurwr yn y Gymraeg a'r Saesneg ar newyddion radio a theledu hyd 1983.
Yna, ymunodd â HTV Cymru fel gohebydd a chynhyrchydd gyda'r adran Materion Cyfoes. Bu'n gohebu am wleidyddiaeth yng Nghymru a San Steffan, yn Unol Daleithiau America, y cyn-Undeb Sofietaidd ac yn Ewrop.
Ar ôl cyfnod fel Rheolwr Rhaglenni Ffeithiol a Chyffredinol, fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Rhaglenni HTV Cymru ym 1993. Roedd yn gyfarwyddwr yn Grwp HTV Cyf cyn i United News and Media gymryd yr awenau.
Fel Rheolwr BBC Cymru hi sy'n bennaf gyfrifol am holl wasanaethau BBC Cymru yn Saesneg ac yn Gymraeg ar radio, teledu ac arlein, ac am tua 1,200 o staff.
Mae hefyd yn gysylltiedig â nifer o sefydliadau a chyrff cyhoeddus eraill. O ran addysg, mae'n aelod o Gyngor Prifysgol Cymru, Caerdydd. Ym myd y celfyddydau, mae'n Gadeirydd Coleg Celf a Drama Cymru ac is-lywydd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ac yn aelod o fwrdd Gŵyl Ffilm Ryngwladol Cymru. Bu hefyd yn aelod o fwrdd Theatr y Sherman. Mae'n gymrawd anrhydeddus Prifysgol Cymru, Aberystwyth ac yn gymrawd o'r Gymdeithas Deledu Frenhinol.